Mae’r cyfweliadau’n cael eu cynnal yn y cnawd ym Mhrifysgol Bangor. Maent yn cymryd ffurf Cyfweliadau Bach Lluosog (MMIs) wyneb yn wyneb. Mae MMIs yn cynnwys nifer o orsafoedd trafod a chwestiynau sy’n archwilio rhinweddau personol a nodweddion sy’n bwysig i feddygon. Rydym yn pennu sgôr terfynol drwy gyfuno’r sgorau a gafwyd ym mhob gorsaf drafod.
Amgylchiadau Eithriadol: Os oes unrhyw amgylchiad hysbys a allai effeithio ar berfformiad ymgeisydd, rhaid datgan hyn wrth archebu slot cyfweliad er mwyn caniatáu addasiadau rhesymol. Os bydd salwch ar y diwrnod, rhaid i’r ymgeisydd gysylltu â’r Tîm Derbyniadau (derbyniadaumeddygaeth@bangor.ac.uk) cyn y cyfweliad. Bydd dyddiad cyfweliad arall yn cael ei drefnu os yn bosibl, ond ni ellir gwarantu hyn. Rhaid cyflwyno unrhyw bryderon am y cyfweliad i’r Tîm Derbyniadau ar ddiwrnod y cyfweliad. Ni ellir ystyried addasiadau ôl-weithredol nac amgylchiadau eithriadol ar ôl y digwyddiad. Bydd peidio â mynychu cyfweliad heb resymau eithriadol yn arwain at wrthod y cais, ac ni wneir unrhyw gynnig.